Diabetes yw un o'r heriau iechyd hirdymor mwyaf sy'n wynebu GIG Cymru. Mae mwy o bobl yn byw gyda'r cyflwr, mae costau'n codi, ac mae gwasanaethau o dan bwysau cynyddol. Yn ogystal â helpu pobl â diabetes, mae angen i'r GIG atal mwy o bobl rhag ei ddatblygu yn y dyfodol.
Rydym yn cynllunio dau adolygiad o ddiabetes ar draws GIG Cymru yn ystod 2026 a 2027. Mae'r erthygl hon yn esbonio pam rydym yn edrych ar ddiabetes a materion y bydd ein gwaith yn eu harchwilio.
Beth fyddwn ni'n edrych arno
Bydd ein gwaith yn edrych yn fanylach ar ba mor dda y mae GIG Cymru yn atal diabetes, cefnogi pobl sy'n byw gyda'r cyflwr, a darparu gwasanaethau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Byddwn yn ystyried y materion y mae byrddau iechyd yn eu hwynebu wrth ddarparu gwasanaethau diabetes, a'r camau y maent yn eu cymryd i'w goresgyn.
Bydd y cyntaf o'n hadolygiadau yn canolbwyntio ar reoli diabetes. Rydym yn disgwyl cyhoeddi canfyddiadau yng Ngwanwyn 2027, i ddechrau trwy adroddiadau ar gyfer pob bwrdd iechyd.
Bydd yr ail adolygiad yn canolbwyntio ar atal y rhai sydd mewn perygl rhag datblygu diabetes. Bydd y gwaith hwn yn dechrau ddiwedd 2027.
Ar draws y ddau adolygiad, rydym am dynnu sylw at yr hyn sy'n gweithio'n dda a lle gallai gwasanaethau wella. Rydym am i'n gwaith helpu byrddau iechyd i wella gofal diabetes, fel y gall pobl â diabetes fyw bywydau iachach a mwy annibynnol.
Rydym hefyd eisiau sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio'n dda i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl i gleifion.
Darllen yr erthygl lawn yma